Clustiau cnawd ni allant glywed

(Gariad at yr Anweledig - Rhan II)
Clustiau cnawd ni allant glywed,
  Fythol, dy leferydd pur,
Etto adnabod 'rwyf dy feddwl,
  A'th amcanion sanctaidd gwir;
'Nawr 'rwyf yn ymddiried ynot,
  Ac yn pwyso ar dy ras,
Lawer mwy nag ymddiriedaf
  Yn y cyfaill goreu i maes.

Glynu wrthyt mae fy nghalon,
  Fel ei noddfa gadarn glyd,
Ac 'rwy'n ffeindio ynot ffynnon
  O gysuron dirgel, drud:
Dyma'r dyfroedd a'm diddana,
  Dyma'r dyfroedd hyfryd flas,
A wna i mi'n ddiddig, ddiddig,
  Dreulio'm dyddiau oll i maes.

'Rwyf yn dyfod at dy orsedd
  O ryw hyder cryf yn llawn,
Ac yn edrych ar dy hanfod
  Fy hapusrwydd, foreu a nawn;
Ac mae'r olwg hyny'n ennyn
  Yn fy ysbryd ryw gryfhau,
Gan roi clwyf ar fy mhechodau
  Yn dy wyddfod sy'n gwanhau.

Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Fawr yn ddedwydd ynddo ei hun,
Ac na raid i ti ymddiried
  Mewn creadur unrhyw lun;
O! teyrnasa fel y mynost,
  Doed dy amcan mawr i ben;
Seinied pawb, mewn nef a daear,
  Haleluwia fyth, Amen.

Minnau, bryfyn gwael o'r ddaear,
  Rof fy llais yn mhlith y llu -
Saint, cerubiaid, ac angylion,
  A'r seraphiaid bywiog fry;
O! na chawn i ymgymmysgu
  A sêr y boreu mewn un dôn,
Rhown fy llais i mewn i'r anthem
  Am ddioddefaint addfwyn Oen.
William Williams 1717-91

[8787D]:
Chrysostom (<1876)
Gaerwen (Lowell Mason 1792-1872)

gwelir:
  Anweledig 'rwy'n dy garu (Ac ...)
  Anweledig 'rwy'n dy garu (Rhyfedd ...)
  Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Minnau bryfyn gwael o'r ddaear

(Love towards the Unseen - Part 2)
The ears of flesh cannot hear,
  Ever, thy pure speech,
Still I do recognize thy thought,
  And thy true, sacred purposes;
Now I am trusting in thee,
  And leaning on thy grace,
Much more than I trust
  In the best friend around.

Sticking to thee is my heart,
  Like its firm, secure refuge,
And I am fining in thee a fount
  Of precious, secret comforts:
Here are the waters that delight me,
  Here are the waters of delightful taste,
That make me content, content,
  To spend out all my days.

I am coming to thy throne
  Full of some strong confidence,
And looking upon thy essence
  My happiness, morning and afternoon;
And that sight is igniting
  In my spirit some strength,
Giving a wound to my sins
  In thy presence which weakens them.

Joyful am I that thy great
  Essence is happy in itself,
And without need for thee to trust
  In a creature of any appearance;
O reign as thou wilt,
  May thy great purpose come to pass;
May all sound, in heaven and earth,
  Hallelujah forever, Amen.

I myself, a base worm of the earth,
  Shall put my voice amongst the host -
Saints, cherubim, and angels,
  And the lively seraphim above;
O that I might mix
  With the stars of the morning in one tune,
I would put my voice into the anthem
  About the suffering of the gentle Lamb.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~